Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 2016-2021
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Sefydlwyd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig gan y Cynulliad ar 28 Mehefin 2016 gyda'r cylch
gwaith a ganlyn:
'Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd; ynni; rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.' |
Mae'r 'pecyn croeso' hwn yn cynnwys gwybodaeth i aelodau'r Pwyllgor am y gefnogaeth sydd ar gael gan staff Comisiwn y Cynulliad, yn ogystal â ffynonellau cyngor a chyfarwyddyd. Mae hefyd yn cynnwys manylion am rai o'r gweithdrefnau a'r arferion cyffredinol ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad.
Mae'r pecyn yn ymdrin â'r meysydd a ganlyn:
1. Cymorth y Tîm Integredig
2. Sut mae'r pwyllgorau'n gweithredu
3. Datblygiad Proffesiynol Parhaus
4. Manylion cyswllt
1. Cymorth y Tîm Integredig
Mae'r Pwyllgor yn cael ei gefnogi yn ei waith gan dîm integredig o staff Comisiwn y Cynulliad. Mae'r tîm hwn yn cynnwys y clercod, ymchwilwyr, cyfreithwyr, staff allgymorth a chyfathrebu a chyfieithwyr sy'n darparu cyngor arbenigol mewn gwahanol feysydd.
Mae'r tîm integredig yn cael ei arwain gan y Clerc sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y gefnogaeth a ddarperir i'r Pwyllgor.
a) Y Tîm Clercio
Y tîm clercio sy'n cefnogi gwaith y Pwyllgor o ddydd i ddydd, gan gynllunio a threfnu busnes y Pwyllgor. Y Cadeirydd a'r Aelodau sy'n gyrru gwaith y Pwyllgor; y Clercod a'u tîm sy'n cynorthwyo hyn. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth a chyngor amserol, cywir a pherthnasol yn ogystal â rheoli ymchwiliadau'r Pwyllgor a drafftio adroddiadau neu ddogfennau ysgrifenedig eraill.
Mae'r tîm clercio hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth am waith y Pwyllgor yn cael ei chyhoeddi ar dudalen y Pwyllgor ar y wefan, ac ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
b) Y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae'r Pwyllgor yn cael ei gefnogi gan gynghorwr cyfreithiol o'r Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae'n cynorthwyo'r Pwyllgor trwy gynghori ar yr agweddau cyfreithiol ar unrhyw ran o waith y Pwyllgor. O ran deddfwriaeth, mae'n cefnogi'r Pwyllgor trwy helpu i ddeall goblygiadau technegol ac ymarferol deddfwriaeth a drafftio gwelliannau ar gyfer aelodau’r pwyllgor.
c) Y Gwasanaeth Ymchwil
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil a Swyddfa'r UE yn darparu cyngor polisi arbenigol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y Canllaw i'r Gwasanaeth Ymchwil.
ch) Y Tîm Allgymorth
Mae'r Tîm Allgymorth yn cefnogi pwyllgorau'r Cynulliad trwy hwyluso cyfleoedd i ymgysylltu ag amrywiaeth o ddinasyddion o bob rhan o Gymru. Bydd cyfraniadau yn cael eu hannog a'u cynnwys yn benodol gan bobl na fyddai eu llais fel arall yn cael ei glywed yn y broses graffu.
Maent yn gwneud hyn trwy deilwra rhaglenni a gweithgareddau ymgysylltu sy'n cyd-fynd ag ymgynghoriadau'r pwyllgorau, ar adegau sy'n gyfleus i Aelodau'r Cynulliad a chyfranogwyr, mewn amgylchedd dymunol a chyfforddus.
Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'w gweld ar y dudalen ar waith allgymorth ac ymgysylltu allanol ar y wefan.
d) Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi
Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi ar gael i helpu Aelodau i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sy'n galluogi pob aelod i dderbyn gwybodaeth a chyfrannu'n llawn yn yr iaith swyddogol sydd orau ganddo - Cymraeg neu Saesneg.
Darperir cyfieithu ar y pryd o'r holl gyfraniadau a wneir yn Gymraeg ym mhob cyfarfod pwyllgor, gan alluogi Aelodau'r Cynulliad i gyfathrebu gan ddefnyddio'r naill neu'r llall o'r ddwy iaith swyddogol. Paratoir cyfieithiadau testun Cymraeg o holl ddogfennau swyddogol y Cynulliad, gan gynnwys adroddiadau pwyllgor, briffiau i Aelodau ac ati. Anfonir trawsgrifiadau o gyfarfodydd y pwyllgorau at Glercod y Pwyllgor a'r Aelodau ar ffurf drafft o fewn tri diwrnod gwaith, a chyhoeddir fersiwn derfynol ar y rhyngrwyd o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn ogystal, mae'r gwasanaeth yn darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau iaith. Mae'r ddarpariaeth yn hyblyg ac wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion dysgwyr ar bob lefel.
Gofynnir i aelodau'r Pwyllgor ynglŷn â'u dewisiadau o ran rheoli eu gwaith ar gyfer y Pwyllgorau (gan gynnwys, er enghraifft, ym mha iaith y maent yn dymuno derbyn papurau), a bydd y tîm yn cynorthwyo i sicrhau hyn.
2. Sut mae'r pwyllgorau'n gweithredu
Mae'r rheolau a nodir yn Rheol Sefydlog 17 yn llywodraethu'r modd y mae'r pwyllgorau'n gweithredu. Mae cyngor ar unrhyw agwedd ar reol Sefydlog 17 ar gael gan y Clercod, a nodir rhai o elfennau allweddol o Reol Sefydlog 17 isod:
· Datgan Buddiannau (Rheol Sefydlog 17.24A) – Cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion pwyllgor, rhaid i Aelod ddatgan unrhyw fuddiant, boed yn ariannol neu fel arall, sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o'i deulu, neu y mae'r Aelod neu aelod o'i deulu yn disgwyl ei gael sy'n berthnasol i'r trafodion hynny, ac y gellid ystyried yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.
· Cworwm (Rheol Sefydlog 17.31) – Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os bydd llai na thri Aelod neu lai na thraean o nifer aelodau’r pwyllgor, pa un bynnag yw'r mwyaf, yn bresennol. Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os un grŵp gwleidyddol yn unig a gynrychiolir gan yr Aelodau sy'n bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.
· Natur agored y pwyllgorau (Rheol Sefydlog 17.40) – Rhaid i bwyllgorau gyfarfod yn gyhoeddus, a rhaid caniatáu mynediad ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyhoeddus yn unol â'r trefniadau y bydd y Comisiwn yn cytuno arnynt. Caiff cyfarfodydd pwyllgorau eu darlledu ar Senedd TV, ac mae trawsgrifiadau o gyfarfodydd pwyllgorau ar gael ar ffurf ddrafft o fewn tri i bum diwrnod gwaith. Cyhoeddir y fersiwn derfynol o fewn 10 diwrnod gwaith.
· Cyfarfod yn Breifat (Rheol Sefydlog 17.42) - Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod ffurfiol neu unrhyw ran o gyfarfod ffurfiol ar gyfer diben penodol. Nid yw'r Rheolau Sefydlog hyn yn berthnasol i gyfarfodydd anffurfiol.
· Dirprwyon (Rheol Sefydlog 17.48) –Caniateir i aelod o bwyllgor sydd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i’r cadeirydd gael ei gynrychioli mewn cyfarfod, neu ran o gyfarfod, gan Aelod arall o’r un grŵp gwleidyddol sydd wedi’i enwi ymlaen llaw.
3. Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gwaith y pwyllgorau
Er mwyn cefnogi gwaith y pwyllgorau, mae'r tîm Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau wedi paratoi llyfryn sy'n rhoi blas ar y cyfleoedd sydd ar gael i aelodau pwyllgorau, Cadeiryddion pwyllgorau a staff yr Aelodau. Mae wedi ei gynllunio i helpu i ddatblygu'r wybodaeth, yr arbenigedd a'r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â'r gwahanol agweddau ar waith pwyllgorau - nodir prif elfennau'r llyfryn isod.
Gall aelodau'r Pwyllgor drafod unrhyw ofynion sydd ganddynt ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus â thîm Cyswllt a Datblygiad yr Aelodau, neu â Chlerc y Pwyllgor.
Strategaeth a dull gwaith - Datblygu amcanion a phwrpas y pwyllgor; datblygu gweledigaeth ar y cyd; adnabod blaenoriaethau a datblygu dull strategol; mesur cynnydd; y pwyllgor yn gweithio fel tîm; amserlennu a chynllunio ymlaen; gwerthuso effaith.
Maes arbenigol / maes pwnc y pwyllgor - Deall y cyd-destun o ran pwnc a pholisi, a'r cyd-destun deddfwriaethol ac ariannol, a'r materion allweddol sy'n berthnasol yng Nghymru, y DU a thu hwnt; dod i adnabod y rhanddeiliaid a dulliau gwahanol o ymgysylltu â'r cyhoedd.
Dull o gasglu tystiolaeth a chwestiynu - Paratoi; technegau cwestiynu gwahanol a ffyrdd o olrhain ymatebion; ymdrin â gwahanol fathau o dystion; gosod amcanion ar gyfer pob darn o waith; gwerthuso tystiolaeth (llafar, ysgrifenedig ac arall); gwaith dilynol a gwerthuso effaith.
Craffu ariannol - Proses y gyllideb; effaith pwerau codi trethi / benthyca; craffu ariannol yn ystod y flwyddyn (polisi a deddfwriaeth).
Deddfwriaeth - Adnabod nodweddion allweddol deddfwriaeth effeithiol; drafftio gwelliannau a defnyddio'r cyfnodau gwelliannau; cynnal gwaith craffu cyn deddfu ac ar ôl deddfu; craffu ar is-ddeddfwriaeth.
4) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Manylion Cyswllt y Tîm Integredig
|
||
Alun Davidson |
Clerc |
6339 |
Catherine Hunt |
Ail Glerc |
6347 |
Adam Vaughan |
Dirprwy Glerc |
6359 |
Hasera Khan |
Cymorth Tîm |
6349 |
Y Gwasanaeth Ymchwil
|
||
Andrew Minnis |
Arweinydd y Tîm Ymchwil Yr Amgylchedd a thrafnidiaeth |
6314 |
Nia Seaton |
Uwch-swyddog Ymchwil Amaethyddiaeth, tirweddau dynodedig a mynediad, lles anifeiliaid, cadwraeth natur, y môr a physgodfeydd, ac asesiadau amgylcheddol |
6313 |
Elfyn Henderson |
Uwch-swyddog Ymchwil Cynllunio ar gyfer defnydd tir, rheoliadau a rheoli adeiladu, dŵr a charthffosiaeth, llifogydd ac erydu arfordirol, coedwigaeth, a bwyd a diod. |
6317 |
Chloe Corbyn |
Uwch-swyddog Ymchwil Gwastraff, newid yn yr hinsawdd, ynni a datblygu cynaliadwy |
6316 |
Y Gwasanaethau Cyfreithiol
|
||
Gwyn Griffiths |
Uwch-gynghorwr Cyfreithiol |
6429 |
Lisa Salkeld |
Cynghorwr cyfreithiol |
6437 |
Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi
Peter Hill |
Uwch-olygydd |
6346 |
Y Gwasanaethau Addysg ac Allgymorth
Celyn Cooper |
Uwch-swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu |
6275 |